Wrth adael yr A55 ar gyffordd 6 dilynwch yr A5114 am ganol tref Llangefni.Dilynwch y system unffordd tuag at y B5110, Heol Benllech.Ychydig ar ôl gadael canol y dref trowch i’r chwith i’r A5111 tuag at Rhosmeirch (Fe welwch hefyd arwydd am Oriel Ynys Môn, pasiwch yr Oriel ar eich ochr dde.)Ar ôl tua milltir ewch drwy bentref Rhosmeirch (cod post LL77 7SX) wedyn wrth adael y pentref trowch i’r dde o flaen y ciosg ffôn sydd hefyd ar ochr dde y ffordd fawr.Mae Neuadd Gymuned Rhosmeirch tua chwarter milltir i lawr y lôn wledig ar eich ochr dde.